SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 8

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran tenant safle busnes mewn cysylltiad â chais i roi tenantiaeth newydd, wedi i’r tenant gyflwyno (serve) cais o dan a.26 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (Deddf 1954).

Er nad yw’r landlord yn gwrthwynebu rhoi tenantiaeth newydd, mae’r tenant yn poeni na fyddant yn dod i gytundeb ar delerau’r denantiaeth newydd.

Mae’r cyfreithiwr yn cynghori’r tenant bod gan y llys, os na cheir cytundeb, y pŵer i orchymyn rhoi tenantiaeth newydd am gyfnod newydd.

Mae’r tenant wedi gofyn am eglurhad ynglŷn â hyd a lled pwerau’r llys.

Os nad yw’r landlord a’r tenant yn cytuno ar delerau’r denantiaeth newydd, pa orchymyn all y llys ei wneud?

A. Dim ond ar yr un telerau â’r denantiaeth bresennol y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd.

B. Dim ond ar yr un telerau â’r denantiaeth bresennol y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd, heblaw mewn perthynas â rhent.

C. Dim ond ar yr un telerau â’r denantiaeth bresennol y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd, am gyfnod nad yw’n fwy na 15 mlynedd.

D. Dim ond ar delerau y mae e’n eu pennu o dan Ddeddf 1954 y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd, a hynny am gyfnod nad yw’n fwy na 15 mlynedd.

E. Dim ond ar yr un telerau â’r denantiaeth bresennol y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd ac wedi ei chontractio allan o Ddeddf 1954.


D - Dim ond ar delerau y mae e’n eu pennu o dan Ddeddf 1954 y gall y llys orchymyn rhoi tenantiaeth newydd, a hynny am gyfnod nad yw’n fwy na 15 mlynedd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?