SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 10

Mae ymddiriedolaeth ewyllys (will trust) yn cynnwys y ddarpariaeth ganlynol:

“Bydd fy Ymddiriedolwyr yn dal fy eiddo dal mewn ymddiriedolaeth (on trust) i ganiatáu i fy mam fyw yn yr eiddo weddill ei hoes ac, ar ôl ei marwolaeth, byddant yn dal yr eiddo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer fy nai (nephew) a fy nith (niece) os byddant yn goroesi fy mam ac yn cyrraedd 21 oed, mewn cyfrannau cyfartal (equal shares).”

Mae’r nai bellach yn 20 oed ac mae’r nith yn 22 oed.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau’r buddiannau llesiannol (beneficial interests) yn y gronfa ymddiriedolaeth?

A. Mae gan y fam fuddiant breiniedig (vested interest) ond mae gan y nai a’r nith fuddiannau digwyddiadol (contingent interests).

B. Mae gan y fam fuddiant digwyddiadol (contingent interest) ond mae gan y nai a’r nith fuddiannau breiniedig (vested interests).

C. Mae gan y fam, y nai a’r nith i gyd fuddiannau digwyddiadol (contingent interests).

D. Mae gan y fam, y nai a’r nith i gyd fuddiannau breiniedig (vested interests).

E. Mae gan y fam a’r nith fuddiannau breiniedig (vested interests) ond mae gan y nai fuddiant digwyddiadol (contingent interest).


A - Mae gan y fam fuddiant breiniedig (vested interest) ond mae gan y nai a’r nith fuddiannau digwyddiadol (contingent interests).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?