SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 11

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran unigolyn sy’n prynu eiddo yn Lloegr sydd â theitl cofrestredig.

Mae’r unigolyn yn prynu’r eiddo gyda chymorth morgais.

Mae contractau wedi’u cyfnewid, mae’r gofynion ar y teitl (requisitions on title) wedi’u gwneud, ac mae’r cyfreithiwr wedi cynnal chwiliad swyddogol gyda blaenoriaeth (OS1).

Ar ôl cwblhau, bydd angen i’r cyfreithiwr ddelio â materion ôl-gwblhau sy’n cynnwys talu Treth Dir y Dreth Stamp (Stamp Duty Land Tax - SDLT) i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi a chofrestru’r trafodiad yn y Gofrestrfa Tir.

Rhaid cofrestru yn y Gofrestrfa Tir o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl pa ddyddiad?

A. Y dyddiad cyfnewid contractau, fel nad oes llog (interest) yn dod yn daladwy ar yr SDLT sy’n ddyledus.

B. Y dyddiad cwblhau, fel nad oes llog (interest) yn dod yn daladwy ar yr arian cwblhau sy’n ddyledus.

C. Y dyddiad cwblhau, fel nad yw teitl ecwitïol yn yr eiddo yn dychwelyd i’r gwerthwr.

D. Dyddiad canlyniad yr OS1, fel nad oes cofnodion dilynol yn cael eu gwneud ar y teitl sy’n rhwymo’r prynwr.

E. Y dyddiad cwblhau, i atal pŵer y morgeisai (mortgagee) i werthu rhag codi o dan yr arwystl cyfreithiol (legal charge).


D - Dyddiad canlyniad yr OS1, fel nad oes cofnodion dilynol yn cael eu gwneud ar y teitl sy’n rhwymo’r prynwr.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?