SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 12

Mae cleient wedi ymrwymo i gontract i werthu ei thŷ hi.

Ar ôl cyfnewid contractau, mae’r cleient yn gofyn am gyngor ynghylch a gaiff hi gadw’r ffitiad golau yn yr ystafell fyw. Mae wedi’i osod ar y nenfwd gyda thair sgriw fach a diweddar dad y cleient a wnaeth y ffitiad golau.

Ni chyfeirir at y ffitiad golau yn y contract.

A oes modd i’r cleient dynnu’r ffitiad golau o’r tŷ cyn cwblhau?

A. Nac oes, gan fod y ffitiad golau’n debygol o fod yn osodiad (fixture) gan fod cysylltiad cryf yn ei ddal yn ei le.

B. Nac oes, oherwydd byddai tynnu’r ffitiad yn golygu bod un o delerau ymhlyg (implied) y contract yn cael ei dorri gan na fyddai golau yn yr ystafell pan fydd y perchnogion newydd yn symud i mewn.

C. Nac oes, gan fod unrhyw eitem mewn eiddo yn rhan barhaol o’r tir ac ni cheir ei dynnu.

D. Oes, gan fod y ffitiad golau’n debygol o fod yn siatel am mai prin yw’r cysylltiad sy’n ei ddal yn ei le.

E. Oes, gan fod modd bob amser dynnu eitemau sydd â gwerth sentimental.


D - Oes, gan fod y ffitiad golau’n debygol o fod yn siatel am mai prin yw’r cysylltiad sy’n ei ddal yn ei le.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?