SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 73

Mae dyn yn prynu tŷ ac fe yw'r unig berchennog cyfreithiol. Mae ei chwaer yn symud i mewn gyda'r dyn ar ôl gwahanu o'i gŵr oherwydd nid yw hi'n gallu dod o hyd i unrhyw lety mae'n gallu fforddio ei rentu. Wrth drafod perchnogaeth y tŷ â'i chwaer, mae'r dyn yn addo y bydd yn: "gofalu amdani'n ariannol". Mae'r dyn yn esbonio na fydd yn rhaid iddi dalu unrhyw rent am fyw yn y tŷ oherwydd nid oes ganddo forgais. Maent yn cytuno y bydd hi'n talu hanner y costau tanwydd a threth y cyngor ac yn rhannu tasgau domestig yn y cartref.

Ddwy flynedd ar ôl i'r chwaer symud i mewn, mae'r dyn yn marw gan adael ei ystad i elusen. Erbyn hyn, mae sefyllfa ariannol ei chwaer wedi gwella yn dilyn terfynu ei hysgariad o'i gŵr.

Mae'r chwaer yn hawlio bod ganddi fuddiant llesiannol (beneficial interest) yn y tŷ sy'n codi dan ymddiriedolaeth ddeongliadol bwriad cyffredin (common intention constructive trust).

A oes gan y chwaer fuddiant llesiannol yn y tŷ dan ymddiriedolaeth ddeongliadol bwriad cyffredin?

A. Oes, oherwydd gellir dod i gasgliad bod bwriad cyffredin i rannu'r buddiant llesiannol o'r drafodaeth ddatganedig (express discussion) am ei sefyllfa ariannol hi.

B. Nac oes, oherwydd nid oedd hi'n wraig y dyn nac yn bartner heb briodi.

C. Oes, oherwydd ei bod hi wedi gweithredu i'w niwed ei hun (to her detriment) drwy rannu tasgau domestig a chyfrannu at gostau'r cartref.

D. Nac oes, oherwydd nid yw hi wedi gwrthbrofi'r rhagdybiaeth mai'r dyn yw'r unig berchennog llesiannol.

E. Nac oes, oherwydd nid yw hi wedi dioddef unrhyw niwed oherwydd bod ei sefyllfa ariannol wedi gwella ac nid yw hi'n dibynnu ar y dyn mwyach.


D - Nac oes, oherwydd nid yw hi wedi gwrthbrofi'r rhagdybiaeth mai'r dyn yw'r unig berchennog llesiannol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?