SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 74

Mae menyw yn cytuno i roi benthyg ei fan hi i ddyn ar ôl iddo ddweud wrthi fod angen y fan arno i gyflawni "ychydig o fusnes". Mae'r fenyw'n gyfarwydd iawn â'r dyn ac yn ymwybodol bod ganddo sawl euogfarn am droseddau dwyn, bwrgleriaeth a lladrad. Nid yw'r dyn yn rhoi unrhyw fanylion i'r fenyw am yr hyn mae'n bwriadu ei wneud gyda'r fan ac nid yw'n dweud wrthi pryd neu ble mae'n bwriadu ei defnyddio. Nid yw hi'n gofyn unrhyw gwestiynau iddo am ddefnydd arfaethedig y fan. Mae hi'n credu y bydd e'n defnyddio'r fan i gyflawni rhyw fath o drosedd a gyflawnwyd ganddo yn y gorffennol ac mae hithau'n bwriadu ei helpu i gyflawni trosedd o'r fath wrth fenthyg y fan iddo.

Ychydig o ddiwrnodau'n ddiweddarach, mae'r dyn, ar ei ben ei hun, yn defnyddio'r fan i gyflawni bwrgleriaeth.

Caiff ei arestio gan yr heddlu ychydig wedi hynny a chaiff y dyn a'r fenyw eu cyhuddo (charged) o fwrgleriaeth o ganlyniad.

Pa un o'r canlynol sy'n esbonio orau a ellir canfod y fenyw'n euog o'r drosedd o fwrgleriaeth drwy ddarparu'r fan a ddefnyddiwyd yn y drosedd?

A. Ni all fod yn euog oherwydd er ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn yn fwriadol i gyflawni'r drosedd o fwrgleriaeth, nid oedd hi'n bresennol ar adeg cyflawni'r drosedd.

B. Ni all hi fod yn euog oherwydd er ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn yn fwriadol i gyflawni'r drosedd o fwrgleriaeth, nid oedd hi'n gwybod pryd neu ble y byddai'n cyflawni'r drosedd.

C. Gall hi fod yn euog oherwydd ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn yn fwriadol i gyflawni trosedd ac roedd y drosedd o fwrgleriaeth o fewn yr ystod o droseddau roedd hi'n bwriadu eu cynorthwyo.

D. Ni all fod yn euog oherwydd er ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn i gyflawni trosedd yn fwriadol, nid oedd hi'n gwybod yn bendant y byddai'r dyn yn cyflawni trosedd o fwrgleriaeth.

E. Gall hi fod yn euog oherwydd ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn yn fwriadol i gyflawni trosedd ac mae hi'n atebol am unrhyw drosedd y mae e'n ei chyflawni wrth ddefnyddio'r fan.


C - Gall hi fod yn euog oherwydd ei bod hi wedi cynorthwyo'r dyn yn fwriadol i gyflawni trosedd ac roedd y drosedd o fwrgleriaeth o fewn yr ystod o droseddau roedd hi'n bwriadu eu cynorthwyo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?