SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 75

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran dyn wrth brynu tŷ menyw. Nid yw contractau wedi'u cyfnewid eto ac mae'r cyfreithiwr ar fin gwneud chwiliadau ac ymholiadau.

Mae'r dyn wedi clywed bod y fenyw wedi torri coeden i lawr yn ei gardd yn ddiweddar, a oedd yn fwy na 100 mlwydd oed. Gwelodd y dyn fonyn coeden (tree stump) pan archwiliodd e'r eiddo. Mae’r dyn hefyd wedi clywed bod y fenyw wedi cweryla sawl tro gyda'i chymydog am gi'r cymydog yn cyfarth. Mae'r dyn yn deall bod y fenyw wedi torri'r goeden i lawr i fod yn faleisus i'r cymydog, oherwydd bod y goeden yn cynnig cysgod i ardd y cymydog. Nid oes unrhyw gyfathrebu wedi bod rhwng y dyn a’r fenyw.

Mae angen i'r cyfreithiwr adrodd yn ôl i'r dyn am unrhyw broblemau sy'n codi yn sgil torri'r goeden i lawr a pherthynas y fenyw â'i chymydog.

Pa un/pa rai o'r chwiliadau a'r ymholiadau canlynol y bydd yn rhaid i'r cyfreithiwr ei wneud/eu gwneud er mwyn adrodd am y materion hyn wrth y dyn?

A. Chwiliad awdurdod lleol yn unig.

B. Chwiliad awdurdod lleol ac ymholiadau am y gwerthwr yn unig.

C. Chwiliad amgylcheddol a chwiliad awdurdod lleol yn unig.

D. Chwiliad amgylcheddol ac ymholiadau y gwerthwr yn unig.

E. Ymholiadau y gwerthwr yn unig.


B - Chwiliad awdurdod lleol ac ymholiadau am y gwerthwr yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?