SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 76

Mae partner mewn cwmni o gyfreithwyr yn cynnal archwiliad rheolaidd o ffeil y mae cyfreithiwr sy'n gyflogedig yn y cwmni hwnnw wedi gweithio arni. Mae'r ffeil yn ymwneud â mater lle'r oedd y cyfreithiwr yn gweithredu ar ran banc wrth drefnu morgais ar gyfer eiddo masnachol.

Wrth gynnal yr archwiliad, mae'r partner yn darganfod nad yw’r cyfreithiwr wedi cofrestru morgais y banc yn y Gofrestrfa Tir ac felly nid yw wedi cyflawni cyfarwyddiadau'r banc. Mae'n cael ei gadarnhau mai dyma'r unig achlysur lle nad yw'r cyfreithiwr wedi cofrestru morgais.

Wedi trafod y mater â'r cyfreithiwr, mae'r partner yn hyderus bod y cyfreithiwr yn gymwys i gyflawni ei rôl. Fodd bynnag, mae'r amgylchiadau'n golygu bod y partner yn credu y gallai'r banc ddioddef colled sylweddol o ganlyniad i'r hepgoriad hwn.

Pa un o'r canlynol yw'r ffordd orau o weithredu i'r partner nawr?

A. Rhaid i'r partner esbonio'r sefyllfa i'r banc a rhoi cyngor bod angen cyngor cyfreithiol annibynnol.

B. Rhaid i'r partner roi gwybod i'r Ombwdsmon Cyfreithiol am hepgoriad y cwmni i gofrestru'r morgais.

C. Rhaid i'r partner roi gwybod i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr am hepgoriad y cwmni i gofrestru'r morgais ac anfon copi o'r ffeil iddo.

D. Rhaid i'r partner ddarparu manylion yswirwyr indemniad proffesiynol y cwmni i'r banc.

E. Rhaid i'r partner ddychwelyd yr holl ffioedd a dalwyd gan y banc i'r cwmni mewn perthynas â'r ffeil hon.


A - Rhaid i'r partner esbonio'r sefyllfa i'r banc a rhoi cyngor bod angen cyngor cyfreithiol annibynnol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?