SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 19

Roedd gŵr, gwraig a mam y wraig wedi prynu tŷ gyda’i gilydd 20 mlynedd yn ôl.

Roedd y weithred drosglwyddo (transfer deed) yn datgan eu bod yn dal yr eiddo fel cyd-denantiaid (joint tenants) o safbwynt cyfraith ac ecwiti.

Gwahanodd y gŵr a’r wraig fis yn ôl, a symudodd y gŵr allan o’r tŷ.

Lladdwyd y wraig mewn damwain car yr wythnos diwethaf. Ychydig ddiwrnodau cyn ei marwolaeth, roedd y wraig wedi gwneud ewyllys yn gadael ei holl eiddo i’w chariad newydd.

Sut mae teitl y tŷ’n cael ei ddal erbyn hyn?

A. Mae’r gŵr a mam y wraig yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac yn denantiaid cydradd (tenants in common) o safbwynt ecwiti.

B. Mae’r gŵr, mam y wraig a’r cariad newydd yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac yn denantiaid cydradd (tenants in common) o safbwynt ecwiti.

C. Mae mam y wraig a’r cariad newydd yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac ecwiti.

D. Mae mam y wraig a’r gŵr yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac ecwiti.

E. Mae mam y wraig a’r cariad newydd yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac yn denantiaid cydradd (tenants in common) o safbwynt ecwiti.


D - Mae mam y wraig a’r gŵr yn gyd-denantiaid o safbwynt cyfraith ac ecwiti.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?