SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 20

Bu farw menyw gan adael ystad o ddau gyfrif banc ac un eiddo rhydd-ddaliadol (freehold). Roedd ei hewyllys yn rhannu’r ystad sy’n weddill yn gyfartal rhwng ei mab a’i merch.

Bum mlynedd yn ôl cafodd y fenyw a’i mab (a oedd yn 22 oed ar y pryd) ffrae ddifrifol a gwnaeth y mab adael cartref y teulu. Nid oes neb o’r teulu wedi ei weld ers hynny. Mae’r cynrychiolwyr personol wedi holi perthnasau eraill a ffrindiau i geisio canfod ble mae’r mab, ond wedi methu cael gafael arno.

Dri mis yn ôl, yn unol ag a.27 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, rhoddodd y cynrychiolwyr personol hysbysebion yn y London Gazette ac mewn papur newydd lleol. Nid yw’r cynrychiolwyr personol wedi cael unrhyw ymateb i’r hysbysiadau hyn oddi wrth fab y fenyw nac unrhyw un arall sy’n honni bod yn gredydwr i’r ystad. Maent yn bwriadu dosbarthu’r ystad weddilliol yn ei chyfanrwydd i ferch y fenyw a dim ond talu’r credydwyr y maen nhw’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau amddiffyniad y cynrychiolwyr personol rhag hawliadau gan gredydwyr a buddiolwyr (beneficiaries) o ganlyniad i’r ymholiadau a wnaed a’r hysbysiadau a osodwyd o dan a.27 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925?

A. Bydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd a buddiolwyr anhysbys, ond nid rhag hawliad gan y mab.

B. Bydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd, ond nid rhag hawliadau gan fuddiolwyr anhysbys na’r mab.

C. Bydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd, buddiolwyr anhysbys a’r mab.

D. Ni fydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd, ond byddant wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan fuddiolwyr anhysbys a’r mab.

E. Ni fydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd na buddiolwyr anhysbys, ond byddant wedi eu hamddiffyn rhag hawliad gan y mab.


A - Bydd y cynrychiolwyr personol wedi eu hamddiffyn rhag hawliadau gan gredydwyr newydd a buddiolwyr anhysbys, ond nid rhag hawliad gan y mab.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?