SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 21

Roedd brawd a chwaer yn berchen ar fflat lesddaliadol (leasehold) fel tenantiaid cydradd (tenants in common) mewn cyfrannau cyfartal. Bu farw’r chwaer fis diwethaf ac o dan delerau ei hewyllys bydd ei hystad gyfan yn cael ei rhoi yn ddiamod (absolutely) i’w merch sy’n oedolyn. Amcangyfrifir bod y fflat yn werth £200,000 gan fod fflat tebyg iawn yn yr un bloc wedi gwerthu am y pris hwnnw fis diwethaf. Bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant ar ystad y chwaer.

Os yw gwerth amcangyfrifedig y fflat yn gywir, beth fydd gwerth hanner cyfran y chwaer at ddiben Treth Etifeddiant?

A. £100,000 minws canran o ostyngiad i adlewyrchu’r ffaith bod y fflat wedi ei gyd-berchnogi pan fu farw’r chwaer.

B. £100,000 gan nad oes gostyngiad ar gael oherwydd y rheolau sy’n gysylltiedig ag eiddo rhwng brawd a chwaer.

C. £100,000 gan nad oes gostyngiad ar gael oherwydd y rheolau sy’n gysylltiedig ag eiddo rhwng mam a merch.

D. £100,000 gan nad oes gostyngiad ar gael oherwydd y rheolau sy’n gysylltiedig ag eiddo pan fydd mwy na dau berthynas agos yn gysylltiedig â pherchnogaeth eiddo.

E. £100,000 gan nad oes gostyngiad ar gael oherwydd mai fflat lesddaliadol yw hwn.


A - £100,000 minws canran o ostyngiad i adlewyrchu’r ffaith bod y fflat wedi ei gyd-berchnogi pan fu farw’r chwaer.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?