SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 85

Mae menyw yn cerdded ar hyd ffordd pan fydd dyn yn dod tuag ati yn gofyn iddi am arian. Mae'r fenyw'n gwrthod rhoi unrhyw arian iddo ac mae'r dyn yn ei sarhau (insult).

Mae'r fenyw'n gwylltio ac yn slapio'r dyn gyda'i llaw dde, gan sylweddoli wrth iddi wneud hynny y gallai hi achosi peth niwed corfforol iddo. Mae'r fenyw yn gwisgo modrwy ar fys ei llaw dde sy'n achosi toriad croen dwfn i foch y dyn wrth iddi ei slapio. Nid yw'r fenyw yn meddwl o gwbl am ei modrwy wrth iddi slapio'r dyn ac nid yw hi'n sylweddoli y gallai hi dorri croen ei wyneb. Nid yw hi'n bwriadu clwyfo nac anafu'r dyn yn ddifrifol.

Caiff y fenyw ei harestio mewn perthynas â'r digwyddiad ac yn ddiweddarach, caiff ei chyhuddo o (charged with) glwyfo'r dyn yn faleisus (malicious wounding) yn groes i a.20 o Ddeddf Troseddau Corfforol 1861.

A oes gan y fenyw y mens rea sy'n ofynnol ar gyfer y drosedd o glwyfo'n faleisus wrth iddi slapio'r dyn?

A. Nac oes, oherwydd ni wnaeth hi sylweddoli y gallai hi glwyfo'r dyn.

B. Nac oes, oherwydd ni wnaeth hi fwriadu clwyfo'r dyn.

C. Oes, oherwydd ei bod hi wedi sylweddoli y gallai hi achosi peth niwed corfforol i'r dyn.

D. Nac oes, oherwydd wnaeth hi ddim bwriadu anafu'r dyn yn ddifrifol.

E. Oes, oherwydd ei bod hi wedi bwriadu defnyddio grym ar y dyn a gwnaeth y grym hwnnw achosi clwyf.


C - Oes, oherwydd ei bod hi wedi sylweddoli y gallai hi achosi peth niwed corfforol i'r dyn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?