SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 67

Mae menyw yn credu bod ei chariad yn caru ar y slei (having an affair) ac yn mynd i'w gartref i'w wynebu a dod â'r berthynas i ben. Mae hi'n mynd â bag o eiddo'r cariad gyda hi er mwyn ei ddychwelyd iddo, sy'n cynnwys pâr o'i esgidiau ef. Nid yw ei chariad hi’n ateb ei ddrws blaen. Mae'r fenyw'n argyhoeddedig ei fod ef yn y cartref ac yn dechrau gwylltio. Mae hi'n sefyll yn ei ardd flaen ac yn gweiddi, gan fynnu iddo ei gadael hi i mewn.

Mae dyn yn dod allan o'r tŷ cyfagos ac yn sefyll ychydig y tu allan i'w ddrws blaen. Mae'r dyn yn gofyn i'r fenyw fod yn dawel, sy'n gwylltio'r fenyw ymhellach. Mae'r fenyw wedi'i gwahanu o'r dyn gan ffens dal rhwng cartref y cariad a'r tŷ cyfagos ond mae hi'n cymryd un o esgidiau ei chariad o'r bag ac yn ei daflu dros y ffens at y dyn. Mae hi'n bwriadu achosi i'r dyn ddisgwyl cael ei fwrw gan yr esgid a'i fwrw'n wirioneddol gydag ef. Mae'r dyn yn disgwyl i'r esgid ei fwrw, fel y byddai unrhyw berson rhesymol yn sefyllfa'r dyn. Mae'n gostwng ei ben yn gyflym ac mae'r esgid yn ei basio, gan fwrw'r drws blaen.

Mae'r dyn yn dychwelyd i'w dŷ ei hun, heb anafiadau, ac yn ffonio'r heddlu i adrodd am y digwyddiad.

A all y fenyw fod yn euog o ymosodiad cyffredin ar y dyn?

A. Gall, oherwydd bod y dyn yn disgwyl cael ei fwrw gan yr esgid.

B. Na all, oherwydd nid oedd unrhyw gyswllt corfforol uniongyrchol rhwng y dyn a'r fenyw.

C. Na all, oherwydd ni wnaeth yr esgid gyswllt â'r dyn.

D. Na all, oherwydd ni wnaeth y dyn ddisgwyl unrhyw gyswllt corfforol uniongyrchol rhyngddo ef a'r fenyw.

E. Gall, oherwydd byddai person rhesymol yn sefyllfa'r dyn wedi disgwyl cael ei fwrw gan yr esgid.


A - Gall, oherwydd bod y dyn yn disgwyl cael ei fwrw gan yr esgid.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?