SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 68

Dair blynedd yn ôl, prynodd menyw rydd-ddaliad adeilad sy'n ddarostyngedig i les yr adeilad cyfan wedi'i diogelu gan Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (Rhan II) (LTA).

Mae'r tenant yn rhedeg busnes recriwtio o'r adeilad.

Tymor y les yw 12 mlynedd ac mae deg mis o'r tymor yn weddill.

Ar ddyddiad dod i ben contractiol y les, mae'r fenyw'n bwriadu ailffurfio'r adeilad, a'i droi'n fflatiau. Ni ellir cyflawni'r ailffurfio'n rhesymol heb gael meddiant o'r adeilad. Mae hi wedi cael y caniatâd cynllunio angenrheidiol ar gyfer y gwaith.

Mae'r fenyw newydd dderbyn hysbysiad o dan a.26 o LTA gan y tenant yn gofyn am les newydd.

Mae'r fenyw'n gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch y posibilrwydd o wrthod cais y tenant ar sail y ffaith ei bod hi'n bwriadu ailffurfio'r adeilad.

Pa gyngor dylai'r cyfreithiwr ei roi ynghylch y posibilrwydd y gall y fenyw wrthod cais y tenant am les newydd ar y sail hon?

A. Gall y fenyw ddibynnu ar y sail orfodol (mandatory) hon ac mae digollediad (compensation) yn daladwy.

B. Gall y fenyw ddibynnu ar y sail orfodol (mandatory) hon ac nid yw digollediad (compensation) yn daladwy.

C. Gall y fenyw ddibynnu ar y sail ddisgresiynol hon ac, os bydd y fenyw'n llwyddiannus yn gwrthod cais y tenant am les newydd ar y sail hon, bydd digollediad (compensation) yn daladwy.

D. Ni all y fenyw ddibynnu ar y sail hon oherwydd nid yw hi wedi bod yn berchennog ar ei buddiant hi am ddigon hir.

E. Ni all y fenyw ddibynnu ar y sail hon gan fod y les yn llai na 14 mlynedd o hyd.


A - Gall y fenyw ddibynnu ar y sail orfodol (mandatory) hon ac mae digollediad (compensation) yn daladwy.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?