SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 69

Mae dyn yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad (charge) o ymosodiad cyffredin a chynhelir ei dreial yn y Llys Ynadon.

Honnir bod y dyn wedi bwrw menyw yn yr wyneb yn ystod digwyddiad y tu allan i glwb nos mewn canol dinas yn oriau mân y bore. Mae'r dyn yn gwadu mai fe yw'r person a wnaeth fwrw'r fenyw. Mae dau dyst yn rhoi tystiolaeth yn nhreial y dyn, gan ddweud eu bod nhw wedi'i weld yn bwrw'r fenyw. Mae'r dyn yn rhoi tystiolaeth yn ei amddiffyniad ac yn dweud bod y ddau dyst wedi gwneud camgymeriad.

Caiff y dyn ei ganfod yn euog o ymosodiad cyffredin ac mae'n dymuno apelio yn erbyn ei euogfarn i Lys y Goron.

Sut caiff apêl y dyn ei dyfarnu gan Lys y Goron?

A. Mewn gwrandawiad o'r holl dystiolaeth gan Farnwr Llys y Goron mewn eisteddiad gydag ynadon lleyg (lay).

B. Mewn gwrandawiad o'r holl dystiolaeth gan Farnwr Llys y Goron a rheithgor.

C. Mewn gwrandawiad o'r holl dystiolaeth gan Farnwr Llys y Goron mewn eisteddiad ar ei ben ei hun.

D. Gan Farnwr Llys y Goron mewn eisteddiad ar ei ben ei hun gan ystyried dim ond seiliau ysgrifenedig yr apêl.

E. Gan Farnwr Llys y Goron mewn eisteddiad ar ei ben ei hun gan ystyried dim ond pwyntiau'r gyfraith a ardystiwyd gan y Llys Ynadon.


A - Mewn gwrandawiad o'r holl dystiolaeth gan Farnwr Llys y Goron mewn eisteddiad gydag ynadon lleyg (lay).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?