SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 70

Mae menyw oedrannus yn mynd i fyw gyda'i merch oherwydd ei bod hi'n mynd yn gorfforol fethedig (physically infirm) ac nid yw hi'n gallu byw'n annibynnol mwyach. Wrth symud i mewn gyda'i merch, mae'r fenyw'n penderfynu rhoi mwyafrif ei hystad i'w merch. Mae hi'n cau y rhan fwyaf o'i chyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ac yn trosglwyddo'r balansau terfynol (tua £900,000) i'w merch. Nid yw'r fenyw'n gwneud unrhyw roddion eraill.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r fenyw yn marw ac mae ei hystad yn cynnwys:

  • cyd-gyfrif banc gyda'i merch gyda balans o £30,000
  • cyfrif cynilo yn enw'r fenyw yn unig â balans o £75,000

Nid oes gan y fenyw unrhyw asedau dramor ac nid oes ganddi fuddiant dan ymddiriedolaeth.

Mae'r fenyw yn gadael ewyllys lle mae hi'n penodi ysgutorion, ac yn rhoi ei hystad i'w hoff elusen.

Mae'r ysgutorion yn paratoi'r cais am grant profiant ac yn dymuno gwybod a yw'n ofynnol iddynt gyflwyno ffurflen IHT400.

Pa un o'r canlynol sy'n esbonio orau a oes rhaid i'r ysgutorion gyflwyno ffurflen IHT400?

A. Nid oes rhaid iddynt, oherwydd bod gwerth ystad y fenyw yn llai na £3,000,000.

B. Mae'n rhaid iddynt, oherwydd bod Treth Etifeddiant yn daladwy ar farwolaeth y fenyw.

C. Nid oes rhaid iddynt, oherwydd rhoddwyd ystad weddilliol y fenyw i elusen.

D. Mae'n rhaid iddynt, oherwydd bod gan y fenyw fuddiant mewn cyd-gyfrif banc.

E. Nid oes rhaid iddynt, oherwydd ni wnaeth y fenyw unrhyw drosglwyddiadau trethadwy cyfnod oes (lifetime chargeable transfers).


B - Mae'n rhaid iddynt, oherwydd bod Treth Etifeddiant yn daladwy ar farwolaeth y fenyw.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?