SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 66

Mae cronfa ymddiriedolaeth, ag iddi un ymddiriedolwr yn unig, yn cael ei dal i ddyn am oes, gyda'r gweddilliad (remainder) i ferch y dyn sy'n 23 oed. Nid yw'r offeryn ymddiriedolaeth yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau sy'n berthnasol i'r buddsoddiad.

Mae'r ferch yn awgrymu i'r ymddiriedolwr y dylid buddsoddi £200,000 o'r gronfa mewn tir yn Awstralia. Nid yw'r dyn wedi mynegi barn am hyn. Mae'r ymddiriedolwr yn asiant eiddo o Loegr sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ond ychydig cyn ei ymddeoliad, treuliodd bum mlynedd yn gweithio yn Awstralia, lle datblygodd arbenigedd ym marchnad eiddo Awstralia. Mae'r ymddiriedolwr yn cytuno gydag awgrym y ferch ac yn buddsoddi £200,000 mewn tir yn Awstralia.

Yn ystod y flwyddyn ers i'r ymddiriedolaeth wneud y buddsoddiad, mae gwerth tir yn Awstralia wedi gostwng, ac erbyn hyn dim ond £100,000 yw gwerth y tir a brynwyd gan yr ymddiriedolaeth.

A oes gan yr ymddiriedolwr unrhyw atebolrwydd am y gostyngiad mewn gwerth?

A. Nac oes, oherwydd ei fod wedi gweithredu fel dyn doeth busnes (prudent man of business).

B. Nac oes, oherwydd ei fod wedi gweithredu'n unol ag awgrym y ferch.

C. Nac oes, oherwydd bod y tir yn fuddsoddiad hirdymor.

D. Oes, oherwydd bod tir dramor yn fuddsoddiad anawdurdodedig.

E. Oes, oherwydd ei fod yn arbenigwr mewn gwerth tir yn Awstralia a dylai fod wedi gwybod nad oedd yn fuddsoddiad doeth.


D - Oes, oherwydd bod tir dramor yn fuddsoddiad anawdurdodedig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?