SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 28

Mae menyw wedi cysylltu â chyfreithiwr i ofyn iddo gynrychioli ei thad drwy fod yn bresennol gydag ef yng ngorsaf yr heddlu. Mae’r tad wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio ac mae yn nalfa gorsaf yr heddlu.

Mae’r cyfreithiwr yn gwbl ymwybodol o amgylchiadau’r honiad gan ei fod wedi cynrychioli brawd y fenyw ychydig ddyddiau’n ôl pan gafodd y brawd ei arestio am yr un drosedd. Erbyn hyn mae’r brawd wedi’i gyhuddo (charged) o’r drosedd. Bydd y cwmni’n gwneud y gwiriadau arferol o safbwynt gwrthdaro buddiannau (conflict of interests).

A yw Cod Ymddygiad SRA ar gyfer Cyfreithwyr, Cyfreithwyr Cofrestredig Ewrop (RELs) a Chyfreithwyr Cofrestredig Tramor (RFLs) yn caniatáu i’r cyfreithiwr gynrychioli tad y fenyw yng ngorsaf yr heddlu?

A. Nac ydy. Er bod y cyfreithiwr yn gallu derbyn cyfarwyddiadau gan drydydd parti, ni all dderbyn cyfarwyddiadau gan aelod agos o deulu’r cleient arfaethedig.

B. Nac ydy. Ni all y cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau gan drydydd parti dan unrhyw amgylchiadau.

C. Ydy. Gall y cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau gan y fenyw os yw wedi’i fodloni bod gan y fenyw’r awdurdod i roi cyfarwyddiadau ac nad oes gwrthdaro buddiannau na risg o wrthdaro.

D. Ydy, gall y cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau gan y fenyw os yw wedi’i fodloni bod gan y fenyw awdurdod i roi cyfarwyddiadau. Ni all gwrthdaro buddiannau fyth godi rhwng aelodau agos o’r teulu a does dim angen aros am ganlyniad y gwiriad gwrthdaro buddiannau.

E. Ydy, gall y cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau gan y fenyw os yw wedi’i fodloni bod gan y fenyw awdurdod i roi cyfarwyddiadau. Ni fydd gwrthdaro buddiannau yn codi pan fydd aelodau agos o’r teulu yn gysylltiedig â’r un drosedd a does dim angen aros am ganlyniad y gwiriad gwrthdaro buddiannau.


C - Ydy. Gall y cyfreithiwr dderbyn cyfarwyddiadau gan y fenyw os yw wedi’i fodloni bod gan y fenyw’r awdurdod i roi cyfarwyddiadau ac nad oes gwrthdaro buddiannau na risg o wrthdaro.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?