SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 29

Bu farw menyw a chafodd ei goroesi gan (survived by) ei gŵr a’i mab sy’n 30 oed. Dan delerau ei hewyllys, creodd y fenyw gronfa ymddiriedolaeth (trust fund) o’i hystad weddilliol yn unol â’r telerau canlynol:

“talu’r incwm o’m hystad weddillol i’m gŵr am weddill ei oes ac ar ôl ei farwolaeth RHODDAF fy ystad weddilliol i’m mab os bydd yn goroesi fy ngŵr ac yn troi’n 25 oed, ond os na fydd yn dal yn fyw yna i’m chwaer yn ddiamod (absolutely).”

Mae’r gŵr yn trafod y posibilrwydd o ddod â’r ymddiriedolaeth i ben gyda’r ymddiriedolwyr (trustees).

Gan bwy y mae angen cydsyniad (consent) i ddod â’r ymddiriedolaeth i ben nawr?

A. Y gŵr a’r mab.

B. Y gŵr, y mab a’r chwaer.

C. Y gŵr a’r chwaer.

D. Y chwaer.

E. Y mab a’r chwaer.


B - Y gŵr, y mab a’r chwaer.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?