SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 83

Mae ewyllysiwr yn marw ac mae ei ysgutor yn ystyried telerau ei ewyllys. Mae’r ewyllys yn cynnwys y cymal canlynol:

"Rhoddaf y swm o £20,000 yn ddi-dreth i'm nith (niece) ar yr amod ei bod hi'n cyrraedd 18 oed."

Rhoddir yr ystad weddilliol i bartner sifil yr ewyllysiwr sy'n goroesi'r ewyllysiwr.

Bu farw'r nith yn ddiewyllys yn 20 oed, dair blynedd cyn yr ewyllysiwr. Cafodd ei goroesi gan ei gŵr a'u hunig blentyn, sy'n fab 3 oed. Gwerth ystad y nith oedd £6,000 net.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r cyngor gorau i'r ysgutor ynglŷn â chymynrodd (legacy) y nith?

A. Bydd y gymynrodd o £20,000 yn rhan o ystad y nith a bydd yn pasio i'w gŵr yn unol â diewyllysedd y nith.

B. Bydd y gymynrodd o £20,000 yn rhan o ystad y nith a bydd yn cael ei chadw mewn ymddiriedolaeth i'w mab yn unol â diewyllysedd y nith.

C. Bydd y gymynrodd o £20,000 yn rhan o ystad y nith a bydd yn cael ei chadw mewn ymddiriedolaeth i'w mab o dan a.33 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.

D. Bydd y gymynrodd o £20,000 yn methu a bydd yn pasio i bartner sifil yr ewyllysiwr fel rhan o'r ystad weddilliol.

E. Bydd y gymynrodd o £20,000 yn methu a bydd yn pasio yn unol â diewyllysedd rhannol yr ewyllysiwr.


D - Bydd y gymynrodd o £20,000 yn methu a bydd yn pasio i bartner sifil yr ewyllysiwr fel rhan o'r ystad weddilliol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?