SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 57

Mae cwmni o gyfreithwyr yn gweithredu ar ran ysgutorion ystad dyn a fu farw. Mae newydd gael y grant profiant. Wrth wneud cais am y grant profiant, talodd y cwmni’r ffi berthnasol i’r gwasanaeth profiant, sef £300, o’i gyfrif banc busnes. Mae’r cwmni’n cael £5,225 gan fanc y dyn a fu farw, sef y balans a oedd gan y dyn a fu farw wrth gau ei gyfrif, ac mae’r cwmni’n talu’r swm hwnnw i mewn i gyfrif banc cyffredinol i gleientiaid y cwmni.

Mae’r cwmni wedi cael anfoneb am £200 (dim TAW yn daladwy), ond nid yw wedi ei thalu eto. Mae’r anfoneb wedi’i chyfeirio at y cwmni gan brisiwr lleol a ddarparodd brisiad profiant (probate valuation) ar ddodrefn y dyn a fu farw.

Mae’r cwmni’n cyflwyno bil i’r ysgutorion fel a ganlyn:

Costau proffesiynol £1,000
TAW  £200
Alldaliad (disbursement) wedi ei dalu (ffi profiant) £300
Alldaliad heb ei dalu (ffi prisio) £200
Cyfanswm £1,700

Beth yw’r uchafswm y gall y cwmni ei drosglwyddo i gyfrif banc busnes y cwmni?

A. £1,000

B. £1,300

C. £1,200

D. £1,400

E. £1,700


E - £1,700

Atebodd 40% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE