SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 32

Mae dyn yn berchen ar rydd-ddaliad (freehold) adeilad masnachol ac mae’n bwriadu rhoi les yr adeilad i gwmni yswiriant.

Mae’r dyn wedi’i gofrestru ar gyfer Treth ar Werth (TAW) a, chyn rhoi’r les, mae’n dewis opsiwn i drethu’r adeilad.

Wrth gynnal ei fusnes, mae’r cwmni yswiriant dim ond yn creu cyflenwadau sydd wedi’u heithrio at ddiben TAW.

Yn sgil dewis y dyn ynghylch trethu’r adeilad, beth fydd yr effaith ar y rhent sy’n daladwy i’r dyn gan y cwmni yswiriant?

A. Ni fydd y rhent sy’n daladwy yn destun TAW.

B. Bydd y rhent sy’n daladwy yn destun TAW o 0%.

C. Bydd y rhent sy’n daladwy yn destun TAW o 20%, a fydd yn adferadwy (recoverable) gan y cwmni yswiriant.

D. Bydd y rhent sy’n daladwy yn destun TAW o 20%, a fydd yn anadferadwy (irrecoverable) gan y cwmni yswiriant.

E. Bydd disgownt o 20% ar y rhent sy’n daladwy yn nwylo’r cwmni yswiriant.


D - Bydd y rhent sy’n daladwy yn destun TAW o 20%, a fydd yn anadferadwy (irrecoverable) gan y cwmni yswiriant.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?