SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 62

Mae menyw yn penderfynu gwneud ewyllys yn ei chartref. Ar ddarn o bapur, mae hi’n ysgrifennu’r darpariaethau y mae hi am eu cynnwys. Mae hi’n llofnodi’r ewyllys ar y gwaelod ac yna’n gofyn i ddau gymydog ddod i’w thŷ i weithredu fel tystion.

Tra bydd y ddau dyst yn bresennol yn yr ystafell fyw, mae’r fenyw yn pwyntio at ei llofnod ar waelod yr ewyllys ac yn dweud: “Rwyf wedi ei llofnodi’n barod.” Yna mae’r tyst hŷn a’r fenyw yn mynd i’r gegin i wneud diod. Tra eu bod yn y gegin, mae’r tyst iau yn llofnodi’r ewyllys o dan lofnod y fenyw. Yna mae’r tyst hŷn a’r fenyw yn dychwelyd i’r ystafell fyw a, thra bod y tri gyda’i gilydd, mae’r tyst hŷn yn ychwanegu ei llofnod hi i’r ewyllys o dan lofnod y tyst iau.

Does dim dyddiad na chymal ardystio (attestation clause) yn yr ewyllys.

Pam bod ewyllys y fenyw yn annilys?

A. Gan nad oes dyddiad ar yr ewyllys.

B. Gan na welodd y tystion y fenyw yn llofnodi’r ewyllys.

C. Gan nad oedd y fenyw yn bresennol pan oedd y tyst iau wedi llofnodi’r ewyllys.

D. Gan na welodd y tystion ei gilydd yn llofnodi’r ewyllys.

E. Gan nad oes cymal ardystio ar yr ewyllys.


C - Gan nad oedd y fenyw yn bresennol pan oedd y tyst iau wedi llofnodi’r ewyllys.

Atebodd 35% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE