SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 2

Bedwar mis yn ôl, yn y Llys Ynadon, cafwyd dyn yn euog o ddwyn. Cafodd y dyn orchymyn dedfryd ohiriedig (suspended sentence) o chwe mis o garchar. Deuddeg mis yw cyfnod gweithredol y ddedfryd ohiriedig. Roedd gofyniad i gwblhau 80 awr o waith di-dâl ynghlwm wrth y gorchymyn dedfryd ohiriedig ac mae’r dyn wedi gwneud y gwaith di-dâl.

Nawr mae’r dyn wedi ei gael yn euog yn y Llys Ynadon o drosedd difrod troseddol (criminal damage) a gyflawnwyd fis yn ôl.

A yw’r Llys Ynadon yn gallu gweithredu’r ddedfryd o garchar (custodial sentence) nawr?

A. Ydy, gan fod y dyn wedi cyflawni trosedd yn ystod cyfnod gweithredol y gorchymyn dedfryd ohiriedig.

B. Nac ydy, gan nad yw’r drosedd newydd yn galw am ddedfryd o garchar.

C. Nac ydy, gan fod y dyn wedi cwblhau’r gofyniad a oedd ynghlwm wrth y gorchymyn dedfryd ohiriedig.

D. Nac ydy, gan fod cyfnod gweithredol y gorchymyn dedfryd ohiriedig yn dal i fod mewn grym.

E. Ydy, gan fod y dyn wedi cyflawni trosedd o fewn y cyfnod o chwe mis o garchar a osodwyd.


A - Ydy, gan fod y dyn wedi cyflawni trosedd yn ystod cyfnod gweithredol y gorchymyn dedfryd ohiriedig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?