SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 49

Roedd dyn wedi gwahanu oddi wrth ei wraig rai blynyddoedd yn ôl. Maen nhw’n parhau i fod yn ffrindiau ac ni wnaethon nhw ysgaru. Dechreuodd y dyn gyd-fyw â’i bartner dair blynedd yn ôl.

Chwe wythnos yn ôl, roedd y dyn, ei wraig a’u merch (a oedd yn 21 oed) mewn damwain car tra oeddent ar eu ffordd i seremoni raddio’r ferch. Cafodd y dyn ei ladd yn syth. Bu farw’r wraig a’r ferch y diwrnod canlynol.

Mae’r partner a oedd byw gyda’r dyn yn dal yn fyw. Nid oes gan y dyn unrhyw berthnasau eraill. Bu farw’n ddiewyllys (intestate) a’i ystad net, sy’n is na swm y rheolau diewyllysedd, yw £1,500,000.

Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o sut y bydd ystad y dyn yn cael ei dosbarthu?

A. Bydd yn cael ei dosbarthu i ystad y wraig yn unig.

B. Bydd yn cael ei dosbarthu i ystad y wraig ac ystad y ferch.

C. Bydd yn cael ei dosbarthu i ystad y ferch yn unig.

D. Bydd yn cael ei dosbarthu i’r partner a oedd yn byw gyda’r dyn yn unig.

E. Bydd yn cael ei dosbarthu i’r partner a oedd yn byw gyda’r dyn, ac i ystad y ferch.


C - Bydd yn cael ei dosbarthu i ystad y ferch yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?