SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 79

Mae gan ddyn, sy'n 75 oed ac sydd yng nghamau cynnar dementia, apwyntiad gyda chyfreithiwr i lunio ewyllys newydd. Mae ewyllys bresennol y dyn yn rhoi popeth i'w wraig gyda rhodd sylweddol i'w ferch os bydd ei wraig yn marw cyn ef.

Mae'r dyn yn dweud wrth y cyfreithiwr ei fod ef a’i ferch wedi cael ffrae ddifrifol ac nid yw e am iddi fod yn fuddiolwr i’w ewyllys mwyach. Byddai'n well ganddo i'r arian fynd at "achos da" ac mae am i elusen sy'n ymchwilio i driniaethau ar gyfer dementia fod yn fuddiolwr amnewidiol (substitutional beneficiary) os na fydd ei wraig yn ei oroesi.

Mae'r dyn yn rhoi atodlen o'i asedau i'w gyfreithiwr yr oedd yn bosib iddo ei pharatoi gyda help ei wraig.

Mae'r cyfreithiwr yn gofyn am wybodaeth am ddiagnosis meddygol y dyn. Mae'r dyn yn rhoi adroddiad meddygol iddi a baratowyd chwe mis yn ôl sy'n dweud bod arno ddementia. Mae'n nodi, er bod y dyn yn dangos arwyddion o fod yn anghofus, bydd ei weithrediad gwybyddol (cognitive function) yn gwaethygu’n raddol. Mae'r cyfreithiwr yn siarad â'r dyn am yr archwiliad meddygol ac mae hi'n dod i'r casgliad bod yr adroddiad meddygol yn gynhwysfawr. 

Pa gam, os o gwbl, y dylai'r cyfreithiwr ei gymryd i gadarnhau bod gan y dyn allu ewyllysiol (testamentary capacity)?

A. Dylai hi gael cydsyniad y dyn i ymgynghori ag ymarferydd meddygol i gadarnhau a oes ganddo'r gallu i wneud ewyllys newydd.

B. Ni fydd yn rhaid iddi gymryd unrhyw gamau gan ei bod hi'n fodlon bod yr adroddiad meddygol yn gynhwysfawr.

C. Dylai hi roi copi o'r adroddiad meddygol gydag ewyllys newydd y dyn i gadarnhau bod ganddo allu ewyllysiol pan wnaeth ei ewyllys newydd.

D. Dylai hi ofyn am gydsyniad y dyn i ymgynghori â'r wraig i wirio cywirdeb ei gyfarwyddiadau.

E. Dylai hi gael cydsyniad y dyn i ymgynghori â'i ymarferydd meddygol i gadarnhau mai'r adroddiad meddygol yw'r un diweddaraf a baratowyd ar ei gyfer.


A - Dylai hi gael cydsyniad y dyn i ymgynghori ag ymarferydd meddygol i gadarnhau a oes ganddo'r gallu i wneud ewyllys newydd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?