SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 80

Mae cronfa ymddiriedolaeth yn cynnwys cyfranddaliad mawr mewn cwmni cyfyngedig. Caiff un o ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth ei benodi'n gyfarwyddwr y cwmni o ganlyniad i berchnogaeth yr ymddiriedolaeth o'r cyfrannau. Mae'r ymddiriedolwr yn derbyn £10,000 mewn ffioedd cyfarwyddwr a £3,000 pellach mewn ad-daliad am dreuliau a gafwyd wrth gyflawni ei ddyletswyddau fel cyfarwyddwr. Nid yw gweithred yr ymddiriedolaeth (trust deed) yn dweud dim ynghylch a allai'r ymddiriedolwr gadw naill ai'r ffioedd neu'r treuliau.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n esbonio orau sefyllfa'r ymddiriedolwr?

A. Gall gadw'r ffioedd a'r treuliau.

B. Gall gadw'r treuliau ond dim y ffioedd.

C. Ni all gadw'r ffioedd na'r treuliau.

D. Gall gadw'r ffioedd a'r treuliau os caniateir iddo wneud hynny gan y cyfarwyddwyr eraill.

E. Gall gadw'r ffioedd a'r treuliau os caniateir iddo wneud hynny gan yr ymddiriedolwyr eraill.


B - Gall gadw'r treuliau ond dim y ffioedd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?