SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 26

Bu farw menyw. Rai diwrnodau ar ôl dod o hyd i’w chorff, aeth ei gŵr i dafarn a mynd yn feddw iawn. Cyfaddefodd wrth ffrind ei fod wedi lladd ei wraig am ei fod yn genfigennus o’i pherthynas â dyn arall. Clywodd rheolwr y bar y sgwrs hon.

Rhoddodd ffrind y gŵr a’r rheolwr ddatganiadau i’r heddlu a oedd yn rhoi manylion cyfaddefiad y gŵr. Mae’r gŵr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac wedi cael ei gyfweld dan rybudd (under caution). Bryd hynny gwadodd (deny) ei fod wedi lladd ei wraig, a gwadodd wneud y cyfaddefiad i’w ffrind.

A fyddai cyfaddefiad y gŵr wrth ei ffrind yn y bar yn dderbyniol fel eithriad i’r rheol yn erbyn tystiolaeth achlust (hearsay evidence)?

A. Na fyddai, gan fod y cyfaddefiad wedi cael ei wneud y tu allan i’r treial.

B. Na fyddai, oherwydd na chafodd y cyfaddefiad ei gadarnhau gan y gŵr yn ei gyfweliad dan rybudd.

C. Byddai, gan fod mwy nag un person yn gallu cadarnhau’r cyfaddefiad.

D. Byddai, gan mai cyfaddefiad i drosedd yw hyn.

E. Na fyddai, gan fod y gŵr yn feddw pan wnaeth y cyfaddefiad.


D - Byddai, gan mai cyfaddefiad i drosedd yw hyn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?