SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 36

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran unigolyn sy’n prynu eiddo rhydd-ddaliadol sydd â theitl cofrestredig.

Mae cyfreithiwr y gwerthwr yn dweud wrth gyfreithiwr y prynwr bod gan yr eiddo fudd hawl tramwy cyfreithiol ar droed (legal right of way on foot) ar draws eiddo rhydd-ddaliadol y cymydog, er mwyn cyrraedd ffordd.

Am beth fydd cyfreithiwr y prynwr yn chwilio wrth archwilio copi swyddogol y Gofrestrfa Tir o deitl yr eiddo er mwyn cadarnhau bod yr hawl tramwy wedi’i chofrestru’n briodol?

A. Cofnod sy’n cyfeirio at hawddfraint (easement) yn y Gofrestr Eiddo.

B. Cofnod sy’n cyfeirio at hawddfraint (easement) yn y Gofrestr Perchenogaeth (Proprietorship Register).

C. Cofnod sy’n cyfeirio at hawddfraint (easement) yn y Gofrestr Arwystlon (Charges Register).

D. Cyfyngiad ar drafodion (restriction on dealings) yn y Gofrestr Perchenogaeth (Proprietorship Register).

E. Cofnod yn cyfeirio at gyfamod cyfyngiadol (restrictive covenant) yn y Gofrestr Arwystlon (Charges Register).


A - Cofnod sy’n cyfeirio at hawddfraint (easement) yn y Gofrestr Eiddo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE