SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 60

Roedd menyw wedi prynu tŷ yng Nghymru am £300,000 bum mlynedd yn ôl. Mae hi wedi gwneud gwaith adnewyddu ac ailwampio sylweddol iddo.

Mae contractau ar gyfer gwerthu’r tŷ i brynwr wedi cael eu cyfnewid. Y pris gwerthu yw £450,000.

Mae cyfreithiwr y prynwr yn paratoi i gwblhau. Ar hyn o bryd mae’n drafftio cyfriflen ariannol (financial statement) i’w gleient ac mae angen iddo gynnwys y dreth sy’n daladwy ar ôl cwblhau’r pryniant.

Pa dreth fydd yn rhaid i’r prynwr ei dalu ar ôl cwblhau’r pryniant?

A. Treth Stamp.

B. Treth Trafodiadau Tir.

C. Treth ar Enillion Cyfalaf.

D. Treth Dir y Dreth Stamp.

E. Treth ar Werth.


B - Treth Trafodiadau Tir.

Atebodd 31% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE