SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 7

Mewn perthynas ag eiddo, roedd rhydd-ddeiliad (freeholder) wedi rhoi les fasnachol (commercial lease) 15-mlynedd i werthwr papurau newydd, yn 2012.

Yn ddiweddarach, roedd y gwerthwr papurau newydd wedi aseinio’r les i fanwerthwr dillad.

Roedd y manwerthwr dillad wedi aseinio’r les i fferyllydd.

Roedd y fferyllydd wedi aseinio’r les i siop lyfrau.

Cafodd yr holl aseiniadau eu gwneud gyda chaniatâd y landlord.

Er mwyn aseinio’r les i’r manwerthwr dillad, roedd angen cytundeb gwarant awdurdodedig (authorised guarantee agreement) ar y rhydd-ddeiliad oddi wrth y gwerthwr papurau newydd.

Mewn modd tebyg, roedd angen cytundeb gwarant awdurdodedig ar y rhydd-ddeiliad oddi wrth y fferyllydd er mwyn aseinio les i’r siop lyfrau.

Mae’r siop lyfrau wedi methu talu rhent y chwarter diwethaf.

Ar wahân i’r siop lyfrau, gan bwy all y rhydd-ddeiliad adennill y rhent sy’n ddyledus?

A. Y fferyllydd, y manwerthwr dillad a’r gwerthwr papurau newydd.

B. Y fferyllydd yn unig.

C. Y manwerthwr dillad yn unig.

D. Y gwerthwr papurau newydd yn unig.

E. Y fferyllydd a’r gwerthwr papurau newydd yn unig.


B - Y fferyllydd yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?