SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 45

Mae cwmni o gyfreithiwr yn gweithredu ar ran ysgutorion (executors) ewyllys. Bydd y gwaith o weinyddu’r ystad yn cael ei gwblhau maes o law ac mae’r ysgutorion wedi gofyn i’r cwmni dalu’r cymynroddion (legacies) sy’n ddyledus o dan yr ewyllys.

Fel mater ar wahân, mae’r cwmni hefyd yn gweithredu ar ran un o fuddiolwyr (beneficiaries) yr ewyllys mewn cysylltiad â phrynu eiddo. Mae gan y buddiolwr hawl i gymynrodd o £20,000 o’r ewyllys. Mae’r buddiolwr yn rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i’r cwmni i ddefnyddio’r gymynrodd o £20,000 i ad-dalu’r £2,000 y mae’r cwmni eisoes wedi’i godi mewn ffioedd syrfewyr a chwiliadau (y mae’r cwmni wedi bilio’r buddiolwr amdanynt), a chadw’r balans o £18,000 i’w ddefnyddio fel rhan o’r pris prynu.

Pa un o’r datganiadau canlynol yw’r disgrifiad gorau o’r camau y dylai’r cwmni eu cymryd?

A. Ni all y cwmni drosglwyddo’r arian o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gofnod cyfrif cleient y buddiolwr. Dylai’r cwmni anfon siec am £20,000 at y buddiolwr.

B. Gall y cwmni drosglwyddo £2,000 o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gyfrif banc busnes y cwmni ac fe ddylai wedyn anfon siec am £18,000 at y buddiolwr.

C. Gall y cwmni drosglwyddo £2,000 o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gyfrif banc busnes y cwmni ac fe ddylai wedyn drosglwyddo £18,000 i gofnod cyfrif rhanddeiliaid y buddiolwr.

D. Gall y cwmni drosglwyddo £20,000 o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gofnod cyfrif cleient y buddiolwr ac fe ddylai wedyn drosglwyddo £2,000 i gyfrif banc busnes y cwmni.

E. Gall y cwmni drosglwyddo £20,000 o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gofnod cyfrif cleient y buddiolwr. Ni ddylai’r cwmni drosglwyddo £2,000 i gyfrif banc busnes y cwmni nes bod y broses o brynu’r eiddo wedi’i chwblhau.


D - Gall y cwmni drosglwyddo £20,000 o gofnod cyfrif cleient (client account ledger) yr ysgutorion i gofnod cyfrif cleient y buddiolwr ac fe ddylai wedyn drosglwyddo £2,000 i gyfrif banc busnes y cwmni.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?