SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 5

Yn ei ewyllys, roedd ewyllysiwr (testator) wedi penodi ei wraig, ei ffrind a’i fab sy’n oedolyn i fod yn ysgutorion (executors). Cafodd yr ewyllysiwr a’i wraig ysgariad ar ôl i’r ewyllys gael ei gweithredu (executed). Erbyn hyn mae’r ewyllysiwr wedi marw. Bu farw’r mab cyn yr ewyllysiwr, a rhoddwyd y grant profiant (grant of probate) ar gyfer ystad y mab i’w nai (nephew) ef.

Roedd yr ewyllysiwr wedi gadael ei ystad gyfan i’w nith (niece) ef sy’n 20 oed.

Pwy sydd â’r hawl orau i wneud cais am grant cynrychiolaeth (grant of representation) ar gyfer ystad yr ewyllysiwr?

A. Cyn-wraig yr ewyllysiwr, ffrind yr ewyllysiwr a nai’r mab yn unig.

B. Ffrind yr ewyllysiwr a nith yr ewyllysiwr yn unig.

C. Ffrind yr ewyllysiwr, nai’r mab a nith yr ewyllysiwr yn unig.

D. Ffrind yr ewyllysiwr yn unig.

E. Ffrind yr ewyllysiwr a nai’r mab yn unig.


D - Ffrind yr ewyllysiwr yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?