SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 53

Mae menyw yn marw gan adael ei hystad gyfan i elusen. Mae’r ysgutorion (executors) yn dod ar draws y ddogfen ganlynol ymhlith papurau’r fenyw:

“Drwy hyn rwy’n cadarnhau fy mod yn dal fy mwthyn gwyliau mewn ymddiriedolaeth (on trust) i’m mab a’m merch-yng-nghyfraith.”

Dyddiad flwyddyn yn ôl sydd ar y ddogfen ac mae llofnod y fenyw arni. Nid oedd tyst i’r llofnod.

Nid oedd y fenyw wedi cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r bwthyn yr oedd hi’r unig berchennog cofrestredig arno. Doedd ei mab a’i merch-yng-nghyfraith (y mae’r ddau ohonynt yn oedolion) ddim yn gwybod dim am y ddogfen. Roedden nhw wedi ymddieithrio (estranged) oddi wrth y fenyw ac nid oeddent wedi bod mewn cysylltiad â hi yn ystod y chwe mis cyn ei marwolaeth.

Mae’r mab a’r ferch-yng-nghyfraith yn honni bod y bwthyn wedi’i ddal mewn ymddiriedolaeth ar eu cyfer nhw ac nid yw’n rhan o ystad y fenyw.

Pa un o’r ffactorau canlynol sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw’r bwthyn wedi’i ddal mewn ymddiriedolaeth i’r mab a’r ferch-yng-nghyfraith?

A. Mae’r mab a’r ferch-yng-nghyfraith yn oedolion.

B. Roedd teitl cyfreithiol y bwthyn yn eiddo i’r fenyw pan gyhoeddodd hi’r ymddiriedolaeth.

C. Nid oedd y fenyw wedi trosglwyddo’r teitl cyfreithiol i’r bwthyn cyn ei marwolaeth.

D. Roedd y mab a’r ferch-yng-nghyfraith wedi ymddieithrio oddi wrth y fenyw.

E. Nid oedd y fenyw wedi cyflawni gweithred (deed) yn datgan yr ymddiriedolaeth.


B - Roedd teitl cyfreithiol y bwthyn yn eiddo i’r fenyw pan gyhoeddodd hi’r ymddiriedolaeth.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?