SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 59

Wrth i ddyn gerdded ar hyd stryd, mae menyw yn rhedeg tuag ato yn gweiddi’n uchel ac yn chwifio ei breichiau. Mae’r dyn yn cael ei ddrysu gan beth mae’r fenyw yn ei weiddi, ond mae’n credu’n wirioneddol fod y fenyw ar fin ymosod arno. Ni fyddai person rhesymol yn sefyllfa’r dyn wedi credu bod y fenyw ar fin ymosod arno.

Wrth i’r fenyw agosáu at y dyn, mae’r dyn yn gwthio ei brest hi gyda’i ddwy law, gan achosi iddi faglu am yn ôl. Byddai’r grym yr oedd y dyn yn ei ddefnyddio wrth wthio’r fenyw wedi bod yn rhesymol pe bai hi’n ymosod ar y dyn. Mae’r fenyw yn cael ei syfrdanu ac yn gwylltio, ond nid yw wedi’i hanafu. Mae’r fenyw yn egluro wrth y dyn mai ceisio ei rybuddio bod teils yn disgyn oddi ar do adeilad cyfagos yr oedd hi.

Mae heddwas yn gweld y digwyddiad ac mae’r dyn yn cael ei arestio a’i gyhuddo (charged) wedi hynny o ymosodiad cyffredin. Mae’r dyn yn bwriadu dibynnu yn y llys ar yr amddiffyniad ei fod yn amddiffyn ei hun pan wthiodd y fenyw.

Pa un o’r canlynol sy’n egluro orau p’un a all y dyn ddibynnu ar hunanamddiffyniad?

A. Ni all ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan iddo wthio’r fenyw cyn iddi ymosod arno’n gorfforol.

B. Ni all ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan fod ei gred bod y fenyw ar fin ymosod arno yn afresymol.

C. Ni all ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan fod ei gred bod y fenyw ar fin ymosod arno yn anghywir.

D. Gall ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan ei fod yn credu bod y fenyw ar fin ymosod arno ac roedd y grym a ddefnyddiodd ef yn rhesymol.

E. Gall ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan ei fod yn credu bod y fenyw ar fin ymosod arno ac nid achosodd niwed afresymol i’r fenyw.


D - Gall ddibynnu ar hunanamddiffyniad, gan ei fod yn credu bod y fenyw ar fin ymosod arno ac roedd y grym a ddefnyddiodd ef yn rhesymol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?