SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 40

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin (common assault). Mae’n chwaraewr pêl-droed proffesiynol sy’n ennill £180,000 y flwyddyn. Honnir bod y dyn wedi taro ffotograffydd a oedd yn ceisio tynnu llun ohono tra oedd yn cael diod gyda menyw mewn bar. Nid yw’r dyn erioed wedi mynd i helynt gyda’r heddlu o’r blaen ac mae wedi gofyn am gael ei gynrychioli gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd (duty solicitor) tra ei fod dan rybudd (under caution) yng ngorsaf yr heddlu.

A fydd gan y dyn hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus wrth amddiffyn ei achos?

A. Ni fydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu gan y bydd yn methu’r prawf modd (means test).

B. Bydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu ac ym mhob gwrandawiad hyd at, ac yn cynnwys, y ddedfryd (sentence).

C. Bydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu, sydd wedi’i gyfyngu i gyngor dros y ffôn yn unig.

D. Bydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu. Bydd hefyd yn gallu cael gorchymyn cynrychiolaeth (representation order) yn y Llys Ynadon ar yr amod ei fod yn pasio’r prawf budd cyfiawnder (interests of justice), gan nad oes prawf modd (means test) yn y Llys Ynadon.

E. Bydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu. Ni fydd yn gallu cael gorchymyn cynrychiolaeth (representation order) yn y Llys Ynadon, oherwydd hyd yn oed os bydd yn pasio’r prawf budd cyfiawnder (interests of justice), bydd yn methu’r prawf modd (means test) sy’n berthnasol yn y Llys Ynadon.


E - Bydd y dyn yn gymwys i gael cynrychiolaeth gyfreithiol drwy arian cyhoeddus gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu. Ni fydd yn gallu cael gorchymyn cynrychiolaeth (representation order) yn y Llys Ynadon, oherwydd hyd yn oed os bydd yn pasio’r prawf budd cyfiawnder (interests of justice), bydd yn methu’r prawf modd (means test) sy’n berthnasol yn y Llys Ynadon.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?