What is the SQE?
Who is the SQE for?
Costs and fees
Case studies
Dates and locations
Assessment information
The assessment day
Results and resits
Due to inactivity, and for security reasons, you will be automatically logged out of your SQE account in 1 minute.
Press ’continue’ to stay logged in.
The monitoring and maximising diversity survey has been updated. Please return to the survey to reconfirm your answers and complete the new section at the end.
You must do this to remain eligible for the SQE. You will not be able to book your next assessment until you have updated your answers.
Mae menyw yn ffonio’r gwasanaethau brys ac yn siarad â pherson sy’n trin galwadau ac nad yw’n heddwas (civilian call handler). Mae hi’n swnio’n drist ac yn crio. Mae hi’n honni bod ei gŵr, y mae hi’n ei enwi, newydd ymosod arni trwy ei dyrnu (punch) hi yn y wyneb. Mae hi’n dweud ei bod hi wedi cloi ei hun yn yr ystafell ymolchi yn eu tŷ i wneud yr alwad am ei bod yn ofni y bydd e’n ymosod arni unwaith eto. Mae hi’n gofyn i swyddogion yr heddlu ddod i’w cyfeiriad. Mae’r alwad yn cael ei recordio.
Pan mae’r heddweision yn cyrraedd ychydig funudau’n ddiweddarach mae’r gŵr yn dal i fod yn y tŷ. Mae’r fenyw wedi’i chloi yn yr ystafell ymolchi ac mae’n dal i fod yn ofidus ac yn crio. Mae’r heddweision sy’n bresennol yn perswadio’r fenyw i ddod allan o’r ystafell ymolchi ac maent yn sylwi bod ei hwyneb yn goch a bod cleisiau arno. Mae’r gŵr yn cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar y fenyw. Mae’r fenyw yn gwrthod rhoi datganiad i’r heddweision.
Mae’r gŵr yn arfer ei hawl i aros yn ddistaw pan gaiff ei gyfweld gan swyddogion yr heddlu dan rybudd (under caution). Mae’n cael ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin (common assault). Mae’n pledio’n ddieuog ac mae ei achos yn cael ei ohirio ar gyfer treial (adjourned for trial). Mae’r fenyw yn gwrthod dod i’r llys i roi tystiolaeth gan ddweud nad yw hi’n ofni ei gŵr a’i bod am i’w perthynas barhau. Mae’r erlyniad (prosecution) yn dymuno dibynnu ar y cyfrif a roddodd y fenyw yn ystod ei galwad ffôn i’r gwasanaethau brys yn nhreial y gŵr.
Yn nhreial y gŵr, fel rhan o’r res gestae, a oes modd derbyn yr wybodaeth a roddodd y fenyw yn ystod yr alwad ffôn?
A. Nac oes, gan na fydd y fenyw’n rhoi tystiolaeth lafar yn nhreial y gŵr.
B. Nac oes, gan nad yw’r fenyw wedi rhoi datganiad ysgrifenedig.
C. Oes, gan i’r wybodaeth gael ei rhoi dan amgylchiadau lle gellir diystyru’r posibilrwydd o ffugio (concoction).
D. Oes, gan fod yr wybodaeth wedi’i chadarnhau gan y cochni a’r cleisio ar wyneb y fenyw a welodd swyddogion yr heddlu a oedd yn bresennol.
E. Na, gan na chafodd yr wybodaeth ei rhoi i swyddog yr heddlu.
C - Oes, gan i’r wybodaeth gael ei rhoi dan amgylchiadau lle gellir diystyru’r posibilrwydd o ffugio (concoction).
Create your personal SQE account and book your assessments.
Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.