SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 31

Mae menyw yn cario gliniadur wrth gerdded adref gyda’i merch. Mae dyn yn dod tuag atynt, yn pwyntio at y ferch ac yn sgrechian ar y fenyw: “Rho’r gliniadur i mi neu mi dorraf wddf y ferch.” Ei fwriad yw codi ofn ar y ddwy a gwneud iddynt feddwl y bydd yn defnyddio’r trais mae’n ei fygwth, ac yna dwyn y gliniadur. Mae’r fenyw’n taflu’r gliniadur at y dyn ac mae’n ei gymryd, ac mae’r fenyw a’i merch yn rhedeg i ffwrdd. Mae’r dyn yn cael ei ddal yn ddiweddarach a’i gyhuddo (charged) o ladrad.

A yw’r dyn yn euog o ladrad?

A. Nac ydy, gan nad yw wedi defnyddio grym gwirioneddol ar unrhyw un.

B. Nac ydy, gan fod ei fygythiadau wedi’u cyfeirio at y ferch ac nid at y fenyw a oedd yn cario’r gliniadur.

C. Ydy, gan ei fod wedi dwyn y gliniadur, ac yn syth cyn hynny, ac er mwyn gwneud hynny, mae wedi achosi aflonyddwch, braw neu drallod i’r fenyw a’i merch.

D. Ydy, gan ei fod wedi dwyn y gliniadur, ac yn syth cyn hynny, ac er mwyn gwneud hynny, mae wedi peri i’r ferch ofni y bydd yn dioddef grym yn y fan a’r lle.

E. Nac ydy, gan nad oedd yn cario arf tanio nac arf ymosodol.


D - Ydy, gan ei fod wedi dwyn y gliniadur, ac yn syth cyn hynny, ac er mwyn gwneud hynny, mae wedi peri i’r ferch ofni y bydd yn dioddef grym yn y fan a’r lle.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?