SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 63

Mae menyw yn berchen ar rydd-ddaliad (freehold) cofrestredig ar gyfer gweithdy.

Mae hi’n cytuno ar lafar i roi’r hawl unigryw (exclusive right) i artist feddiannu’r gweithdy fel stiwdio iddo. Maent yn cytuno y bydd y trefniant yn para am 12 mis ac y bydd yr artist yn cymryd meddiant ar unwaith. Ni fydd taliad ymlaen llaw ond bydd rhent misol y farchnad yn daladwy.

Mae’r artist yn cadarnhau telerau’r trefniant mewn e-bost. Mae’r fenyw yn darllen yr e-bost ond nid yw hi’n ei gydnabod.

Nid yw’r artist yn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r trefniant ond, cyn i’r artist symud i mewn i’r gweithdy, mae’r fenyw yn dweud wrtho ei bod hi wedi newid ei meddwl.

Mae’r artist yn honni bod y trefniant wedi creu cytundeb gorfodadwy (enforceable) sy’n caniatáu iddo feddiannu’r gweithdy fel stiwdio iddo.

Beth sydd wedi’i greu gan y trefniant?

A. Les gyfreithiol, gan fod y cytundeb llafar yn ddigonol.

B. Les ecwitïol, gan fod yr e-bost yn ysgrifenedig ond nid yw’n weithred (deed).

C. Trwydded, gan nad yw’r partïon wedi llofnodi’r e-bost.

D. Trwydded, gan nad yw’r artist wedi ymgymryd â meddiant (taken up occupation).

E. Les ecwitïol, gan nad oes modd cofrestru’r cytundeb llafar.


A - Les gyfreithiol, gan fod y cytundeb llafar yn ddigonol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?