SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 1

Mae bwrgleriaeth yn digwydd mewn siop gemwaith yn oriau mân y bore. Cafodd yr heddlu eu galw yno gan reolwr tafarn sydd wedi’i lleoli gyferbyn â’r siop gemwaith, ddeng metr i ffwrdd. Roedd rheolwr y dafarn wedi gweld y fwrgleriaeth ar system teledu cylch cyfyng (CCTV) y dafarn, ond does dim recordiad o’r fwrgleriaeth gan fod nam ar y system.

Rhoddodd y rheolwr ddatganiad i’r heddlu a oedd yn nodi, er gwaetha’r ffaith bod goleuadau’r stryd yn wael, ei fod yn adnabod y troseddwr fel dyn a arferai weithio yn y dafarn tan flwyddyn yn ôl. Mae’n rhoi enw’r dyn i’r heddlu.

Mae’r heddlu’n arestio’r dyn, sydd ag euogfarnau (convictions) blaenorol am fwrgleriaeth. Yn ei gyfweliad dan rybudd â’r heddlu, mae’r dyn yn cytuno ei fod yn arfer gweithio yn y dafarn, ond mae’n gwadu (deny) iddo gyflawni’r fwrgleriaeth. Mae’r heddlu’n ystyried cynnal gweithdrefn adnabod (identification procedure).

A fyddai gweithdrefn adnabod yn ddefnyddiol yn yr achos hwn?

A. Byddai, gan fod y rheolwr wedi gweld y fwrgleriaeth drwy gamera teledu cylch cyfyng a fethodd â recordio’r digwyddiad.

B. Na fyddai, gan fod y rheolwr yn adnabod y dyn.

C. Byddai, gan fod y dyn yn hysbys i’r heddlu.

D. Na fyddai, gan fod y golau’n wael ar adeg y drosedd.

E. Na fyddai, gan fod gormod o bellter rhwng y siop gemwaith a’r dafarn.


B - Na fyddai, gan fod y rheolwr yn adnabod y dyn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?