SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 78

Deng mlynedd yn ôl, prynodd brawd a chwaer dŷ i fyw ynddo gyda'i gilydd ar ôl iddynt adael y brifysgol. Pris prynu'r tŷ oedd £200,000. Cyfrannodd y chwaer £80,000 tuag at y pris prynu a chyfrannodd y brawd £20,000. Cyllidwyd gweddill y pris prynu gan gyd-forgais.

Roedd y weithred drosglwyddo (transfer deed) i'r brawd a'r chwaer yn cynnwys datganiad eu bod nhw'n cyd-berchen ar y tŷ fel cyd-dentantiaid mewn ecwiti (joint tenants in equity).

Ers hynny, mae'r brawd wedi cyfarwyddo ei gyfreithiwr i hollti y cyd-denantiaeth mewn ecwiti.

Anfonodd cyfreithiwr y brawd rybudd hollti (notice of severance) o'r cyd-denantiaeth mewn ecwiti ('y Rhybudd') drwy Signed For y Post Brenhinol (sef y fersiwn fodern o 'Recorded Delivery'). Pan gyrhaeddodd y Rhybudd y tŷ, cymerodd y glanhawr ohono a llofnodi i gadarnhau ei fod wedi'i dderbyn pan oedd y brawd a'r chwaer allan yn y gwaith. Fodd bynnag, yn ddiofal mae'r glanhawr wedi rhoi'r Rhybudd ar frig cwpwrdd uchel ac nid yw'r chwaer, yr oedd y Rhybudd wedi'i gyfeirio ati, wedi ei weld.

Wythnos yn ddiweddarach, bu farw'r chwaer mewn damwain beic.

Beth oedd natur perchnogaeth y tŷ mewn ecwiti yn syth cyn marwolaeth y chwaer?

A. Cyd-denantiaeth gyda'r brawd a'r chwaer ill dau yn dal y cyfan.

B. Cyd-denantiaeth gyda'r brawd a'r chwaer yn dal 50% yr un.

C. Tenantiaeth ar y cyd (tenancy in common) gyda'r brawd a'r chwaer yn dal 50% yr un.

D. Tenantiaeth ar y cyd (tenancy in common) gyda'r brawd yn dal 20% a'r chwaer yn dal 80%.

E. Tenantiaeth ar y cyd (tenancy in common) 50%, gyda'r brawd yn dal 10% a'r chwaer yn dal 40%, ac mae’r 50% sy'n weddill yn gyd-denantiaeth gyda'r brawd a'r chwaer ill dau yn dal y cyfan o'r 50% hwnnw.


C - Tenantiaeth ar y cyd (tenancy in common) gyda'r brawd a'r chwaer yn dal 50% yr un.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?