SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 43

O dan delerau ewyllys dyn, rhoddir ei ystad gyfan i’w ferch. Cafodd y dyn a’i ferch ffrae ddifrifol a phenderfynodd ef nad oedd bellach am iddi fod yn fuddiolwr (beneficiary) i’w ewyllys. Rhwygodd ei ewyllys wreiddiol yn bedwar darn.

Mae’r dyn a’i ferch bellach wedi cymodi (reconcile) ac mae’r dyn yn difaru ei benderfyniad i rwygo ei ewyllys. Mae’n dymuno i’w ferch etifeddu ei ystad gyfan.

Ydy ewyllys y dyn yn ddilys?

A. Nac ydy, gan fod yr ewyllys wedi’i diddymu (revoked) wrth ei dinistrio.

B. Ydy, gan mai ei ferch yw’r buddiolwr a enwir yn yr ewyllys ac mae’r dyn yn bwriadu iddi etifeddu ei ystad gyfan.

C. Nac ydy, gan fod yn rhaid darllen yr ewyllys yn ei chyfanrwydd ac nid yw hyn bellach yn bosibl.

D. Ydy, gan fod yn rhaid diddymu ewyllys drwy gymal diddymu (revocation clause) mewn ewyllys newydd a weithredir yn unol ag a.9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.

E. Ydy, gan y bydd athrawiaeth diddymu perthynas dibynnol (doctrine of dependent relative revocation) yn berthnasol.


A - Nac ydy, gan fod yr ewyllys wedi’i diddymu (revoked) wrth ei dinistrio.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?