SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 44

Roedd tenant wedi cael les i adeilad cyfan gan rydd-ddeiliad (freeholder) adeilad masnachol (‘y Landlord’).

Mae’r tenant yn poeni nad yw’r adeilad yn elwa o ddigon o olau naturiol ac mae’n dymuno creu dau agoriad newydd yn wal allanol yr adeilad ar gyfer ffenestri.

Mae’r tenant yn gofyn am gydsyniad (consent) y Landlord i wneud y newidiadau hyn.

Dyma’r cyfamod newidiadau yn y les:

“Ni chaiff y Tenant wneud newidiadau i’r Adeilad ac eithrio newidiadau anstrwythurol.”

A all y Landlord wrthod cydsyniad ar gyfer newidiadau arfaethedig y tenant heb roi rhesymau?

A. Gall, gan fod y Landlord yn dal i fod yn berchen ar y waliau allanol.

B. Gall, gan fod gwaharddiad absoliwt yn erbyn newidiadau strwythurol.

C. Na all, gan fod amod ymhlyg (implied proviso) ym mhob gwaharddiad absoliwt na ddylai’r Landlord wrthod yn afresymol roi cydsyniad i wneud unrhyw newid.

D. Na all, gan fod amod ymhlyg (implied proviso) mewn gwaharddiadau absoliwt na ddylai’r Landlord wrthod yn afresymol roi cydsyniad i wneud newidiadau strwythurol.

E. Na all, gan fod y newidiadau arfaethedig yn rhai anstrwythurol.


B - Gall, gan fod gwaharddiad absoliwt yn erbyn newidiadau strwythurol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?