SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 6

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran cleient a gafwyd yn euog o ddwyn. Mae’r cleient yn gofyn i’r cyfreithiwr gyflwyno ple lliniaru (plea in mitigation) ar ei rhan hi. Yn ystod y gwrandawiad mae’r cleient yn rhoi cyfeiriad a dyddiad geni ffug i’r llys er mwyn cuddio’r ffaith bod ganddi euogfarnau (convictions) blaenorol.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau’r hyn y dylai’r cyfreithiwr ei wneud?

A. Rhoi’r gorau i weithredu ar unwaith.

B. Peidio â chyfeirio at gymeriad nac euogfarnau blaenorol y cleient.

C. Cywiro’r wybodaeth am gyfeiriad a dyddiad geni’r cleient ar unwaith heb gyfeirio ymhellach at y cleient.

D. Peidio â chyfeirio’n uniongyrchol at euogfarnau blaenorol y cleient ond awgrymu bod ganddi gymeriad da.

E. Gofyn i’r cleient gywiro’r wybodaeth am ei chyfeiriad a’i dyddiad geni ac, os yw’n gwrthod, rhoi’r gorau i weithredu.


E - Gofyn i’r cleient gywiro’r wybodaeth am ei chyfeiriad a’i dyddiad geni ac, os yw’n gwrthod, rhoi’r gorau i weithredu.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?