SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 65

Mae dyn sy’n oedolyn yn cael ei ladd mewn damwain car. Mae menyw yn atebol am esgeuluster (negligence) am achosi’r ddamwain a marwolaeth y dyn.

Roedd y dyn yn briod ar adeg ei farwolaeth ac mae’n cael ei oroesi gan (survived by) ei wraig a’u mab blwydd oed. Mae’r dyn hefyd wedi ei oroesi gan ei ddau riant. Mae gwraig, mab a rhieni’r dyn i gyd yn ddibynnol ar y dyn.

Roedd y dyn wedi gwneud ewyllys gan adael ei ystad gyfan i’w wraig a’i fab.

Pwy sydd â hawl i hawlio iawndal profedigaeth (bereavement damages) am farwolaeth y dyn o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol (Fatal Accidents Act) 1976?

A. Rhieni’r dyn yn unig.

B. Gwraig y dyn yn unig.

C. Mab y dyn yn unig.

D. Mab a gwraig y dyn yn unig.

E. Rhieni, gwraig a mab y dyn.


B - Gwraig y dyn yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?