SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 75

Mae cwmni cyfyngedig preifat ('y Gwerthwr') wedi ymrwymo i gontract gyda chwmni cyfyngedig preifat arall ('y Prynwr') mewn perthynas â gwerthu 8,000 o goed Nadolig am bris o £160,000. Roedd y contract yn darparu ar gyfer llog o 7% y flwyddyn i'w dalu ar bob taliad hwyr.

Dosbarthodd y Gwerthwr y coed yn unol â'r contract, ond nid yw'r Prynwr wedi talu'r pris. Mae'r Gwerthwr wedi cydymffurfio â'r gofynion cyn gweithredu (pre-action) angenrheidiol ac erbyn hyn mae'n dymuno cychwyn achos (issue proceedings) yn erbyn y Prynwr am y swm sy'n ddyledus a llog ar y swm hwnnw. Mae cyfreithiwr y Gwerthwr yn drafftio'r ffurflen hawlio.

Pa hawliad am log dylai gael ei gynnwys yn y ffurflen hawlio?

A. Llog ar 8% y flwyddyn o dan adran 35A o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 neu adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984.

B. Llog ar 7% y flwyddyn o dan y contract.

C. Llog ar 8% y flwyddyn dros gyfradd sylfaenol Banc Lloegr o dan Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998.

D. Llog ar 10% y flwyddyn o dan adran 35A o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 neu adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984.

E. Llog ar 1% y flwyddyn dros gyfradd sylfaenol Banc Lloegr o dan naill ai adran 35A o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 neu adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984.


B - Llog ar 7% y flwyddyn o dan y contract.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?