SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 76

Mae cyfreithiwr yn cynrychioli cleient mewn gwrandawiad cyflafareddu (arbitration) a fydd yn cynnwys archwilio tystion. Mae cynrychiolydd cyfreithiol ('y Cynrychiolydd') yn gweithredu ar ran y parti gwrthwynebol yn y cyflafareddu.

Mae'r cleient yn gweld y Cynrychiolydd yn siarad â thyst ar ran y parti gwrthwynebol y tu allan i ystafell y gwrandawiad. Mae'r cleient yn clywed y Cynrychiolydd yn dweud wrth y tyst pa gwestiynau i'w disgwyl yn ystod ei chroesholi a'r atebion y dylai hi eu rhoi i'r cwestiynau hynny.

Mae'r cleient yn sôn am hyn wrth y cyfreithiwr ac yn cyfarwyddo'r cyfreithiwr i gael sgyrsiau tebyg â thystion sy'n rhoi tystiolaeth ar ran y cleient.

Pa un o'r canlynol sy'n berthnasol o ran a ganiateir i'r cyfreithiwr gael sgyrsiau o'r fath?

A. Mae'r parti gwrthwynebol yn y cyflafareddu yn cymryd rhan mewn ymddygiad o'r fath.

B. Bydd sgyrsiau o'r fath yn destun braint gyfreithiol (legal privilege).

C. Nid yw cynnal cyflafareddu yn weithgaredd cyfreithiol neilltuedig (reserved legal activity).

D. Gall sgyrsiau o'r fath ddylanwadu ar sylwedd tystiolaeth y tystion.

E. Mae'r cyfreithiwr wedi cael cyfarwyddyd gan y cleient i gael sgyrsiau o'r fath.


D - Gall sgyrsiau o'r fath ddylanwadu ar sylwedd tystiolaeth y tystion.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?