SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 77

Mae cwmni cyfyngedig preifat yn destun diddymiad ansolfent (insolvent liquidation). Mae'r datodwr (liquidator) wedi gwerthu eiddo'r cwmni ac mae'n dosbarthu'r enillion i'r rhai sydd â hawl iddynt. Gwerth eiddo net y cwmni at ddibenion Deddf Ansolfedd 1986 ('yr Eiddo Net') yw £100,000. Nid yw'r datodwr wedi dosbarthu i unrhyw un o'r credydwyr canlynol eto:

  • banc y cwmni, y mae £110,000 yn ddyledus iddo, ac sy'n dal arwystl ansefydlog (floating charge) dilys a grëwyd chwe blynedd yn ôl dros holl eiddo'r cwmni
  • nifer o gredydwyr ansicredig y mae cyfanswm o £50,000 yn ddyledus iddynt

Dim ond cyfrannau cyffredin mae’r cwmni wedi’u cyhoeddi. Talwyd £5,000 yr un i dri chyfranddaliwr y cwmni ar gyfer eu cyfrannau cyffredin (cyfanswm o £15,000).

Sut y dylai'r datodwr ddosbarthu'r Eiddo Net?

A. Dylai'r datodwr neilltuo rhan ragnodedig (prescribed) o'r Eiddo Net i'w dosbarthu i'r banc a dosbarthu'r balans i'r credydwyr ansicredig.

B. Dylai'r datodwr ddosbarthu'r holl Eiddo Net i'r banc, oherwydd ei fod yn werth llai na £800,000.

C. Dylai'r datodwr neilltuo rhan ragnodedig (prescribed) o'r Eiddo Net i'w dosbarthu i'r credydwyr ansicredig a dosbarthu'r balans i'r banc.

D. Dylai'r datodwr ddosbarthu'r holl Eiddo Net i'r banc, oherwydd nid yw deiliad yr arwystl ansefydlog yn gysylltiedig â'r cwmni.

E. Dylai'r datodwr neilltuo rhan ragnodedig (prescribed) o'r Eiddo Net i'w dosbarthu i'r cyfranddalwyr a dosbarthu'r balans i'r banc.


C - Dylai'r datodwr neilltuo rhan ragnodedig (prescribed) o'r Eiddo Net i'w dosbarthu i'r credydwyr ansicredig a dosbarthu'r balans i'r banc.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?