SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 78

Mae pêl-droediwr 17 oed yn ymrwymo i gontract hirdymor gydag asiant i negodi contractau masnachol ar ei ran fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol. Nid yw rhieni'r pêl-droediwr yn cyd-lofnodi'r contract. Fis yn ddiweddarach, gyda'r pêl-droediwr yn dal yn i fod yn 17 oed, mae'r pêl-droediwr yn penderfynu nad yw am i'r asiant ei gynrychioli mwyach a'i fod am ddod â'r contract i ben.

A all y pêl-droediwr derfynu'r contract?

A. Na all, oherwydd bod ganddo alluedd (capacity) llawn gan ei fod dros 16 oed.

B. Na all, oherwydd mai contract masnachol yw hwn, nid contract defnyddiwr.

C. Na all, oherwydd ei fod dan oed a chontract ar gyfer angenrheidiau (necessaries) yw hwn.

D. Gall, oherwydd ei fod dan oed ac nid yw'n gontract ar gyfer angenrheidiau (necessaries).

E. Gall, oherwydd nid oedd ei rieni yn gyd-lofnodwyr i'r contract.


D - Gall, oherwydd ei fod dan oed ac nid yw'n gontract ar gyfer angenrheidiau (necessaries).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?