SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 79

Mae'r gyfraith ar Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru wrthi'n cael ei hadolygu gyda chynigion yn cael eu gwneud i gynyddu'r dreth sydd i'w thalu am eiddo a ddefnyddir fel cartref gwyliau.

Mae menyw sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac sy'n byw yng Nghymru, ond sy'n Saesnes, yn dymuno mynegi ei gwrthwynebiad i'r newidiadau arfaethedig. Mae hi'n bwriadu ysgrifennu at ei chynrychiolydd etholedig sy'n aelod o gorff sydd â'r pŵer i bleidleisio ar y mater hwn.

Hoffai wybod a ddylai hi ysgrifennu at ei Haelod Seneddol yn San Steffan ('AS San Steffan') neu at ei Haelod o Senedd Cymru ('AS Cymru').

 

At ba gynrychiolydd/gynrychiolwyr etholedig y dylai'r fenyw ysgrifennu?

A. At ei AS San Steffan oherwydd bod hyn yn ymwneud â mater neilltuedig (reserved matter) i Senedd y DU.

B. At ei AS Cymru oherwydd bod hyn yn ymwneud â phŵer datganoledig Senedd Cymru.

C. At ei AS San Steffan oherwydd bod hyn yn ymwneud â phŵer a roddwyd (conferred power) Senedd y DU.

D. At ei AS San Steffan a'i AS Cymru oherwydd bod hyn yn ymwneud â phŵer ar y cyd rhwng Senedd y DU a Senedd Cymru.

E. At ei AS Cymru oherwydd bod hyn yn ymwneud â phŵer neilltuedig (reserved power) Senedd Cymru.


B - At ei AS Cymru oherwydd bod hyn yn ymwneud â phŵer datganoledig Senedd Cymru.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?